Saturday, 21 January 2023

POBL GLYNDŴR CYMUNED BLAENAU FFESTINIOG YN ARWAIN Y FFORDD AR SUT I DORCHI LLEWYS I ADFER ANNIBYNIAETH EIN CENEDL.POBL GLYNDŴR BLAENAU FFESTINIOG LEADING THE WAY ON HOW TO 'DIG FOR VICTORY.

 


Gweler y logo trawiadol uchod. Dyfeiswyd y logo gan Tom Lew, un o Wladgarwyr Glyndŵr mwyaf gweithredol Blaenau Ffestiniog sydd wedi bod yn gweithio'n ddygn iawn i sefydlu Perllan Cymunedol yn y dref ar gyfer ddibenion y gymuned. Gweler, yn ogystal, y post yn y ddolen isod sy'n esbonio'r athroniaeth du ôl i'r hen chwedl Cymreig am Hu Gadarn. 

https://cymrueingwlad.blogspot.com/2020/05/gadarn-national-economic-movement-to.html

 Bu i chwedl Hu Gadarn ysbrydoli Tom, yn ogystal a Dafydd Gwallter, aelod arall o gell Gwladgarwyr Glyndŵr y Blaenau a Thanygrisiau, i fynd ati i sefydlu rhandiroedd, ynghyd  a'r Perllan cymunedol, yn y Blaenau a gellir gweld  sut oedd y rhandiroedd yn datblygu yn y lluniau a osodwyd ar y blog uchod dros dwy mlynedd yn ôl bellach. Erbyn hyn, mae trigolion ardaloedd y Blaenau a Thanygrisiau yn elwa o gynnyrch y rhandiroedd ac yn gallu tyfu eu cynnyrch eu hunain os ydynt am dorchi llewys i wneud hynny ac erbyn hyn yn ogystal, mae Cyngor y dref wedi mabwysiadu logo Tom i'w ddefnyddio'n arwydd ar gyfer y Berllan. Ardderchog Tom a Dafydd ac, ardderchog Cyngor Tref Blaenau Ffestiniog! Dyma'r ffordd ymlaen i sicrhau Annibyniaeth! Petai pob un Cymuned yng Nghymru yn torchi llewys yn yr un modd i ddarparu bwyd iach ar gyfer poblogaeth eu cymunedau, byddai hyn yn gychwyn ar gydweithrediad cymunedol annibynol cenedlaethol ac yna gellid adeiladu ar yr annibyniaeth cymunedol hynny drwy sefydlu pob math o fentrau annibynol a fyddai'n creu gwaith a hyfforddiant.

Trwy blannu mes,tyfir  deri cryfion ac, yn yr un modd, drwy gychwyn mentrau, gellir tyfu hyder yn yr unigolyn, yn ogystal ac yn y gymuned yn ei chyfanrwydd, i fod a'r gallu i lwyddo. 

Mae gan pob cymuned yng Nghymru adnoddau naturiol mwy na digon fel dŵr a gwynt, ac fe ellir, yn ddigon rhwydd, greu pwer rhad allan o adnoddau naturiol cymunedol pob cymuned ai werthu ar gost i drigolion y cymunedau, ac, eto, gellid gwerthu ac allforddio'r pŵer sydd dros ben am bris rhesymol a defnyddio'r elw er budd y gymuned.

A thra mae'r nod yw i 'gymryd' ein hannibyniaeth yn ôl, dewch i ni ddysgu gwers gwerthfawr gan y Gwyddelod. Mae gan Iwerddon draddodiad o fod ac 'athrawon gwrychoedd' a fyddai'n dysgu hanes a diwylliant allan yn y cymunedau,  gellid cychwyn traddodiad tebyg ymhob cymuned yng Nghymru i gynnal dosbarthiadau hanes Cymru fel modd o sicrhau bod pob unigolyn yng Nghymru yn dod yn ymwybodol o'u hanes brodorol, yn hytrach na derbyn, yn slafaidd, fersiynau o hanes Cymru sy'n cael eu creu gan y Prydeinwyr, a'i fwydo i'n plant drwy'r cwricwlwm Prydeinig.

Byddai gweithredu yn gymunedol ar mentau o'r math led-led Cymru, ynghyd a gweithredu'n uniongyrchol fel cwyd yr angen i wneud hynny, yn llawer mwy tebygol o ad-ennill  ein hannibyniath cenedlaethol nag yw gwastraffu amser yn mynd 'gap yn llaw' i mofyn cardod i Lywodraeth Lloegr - sydd byth bythoedd 'ddim'  yn mynd i 'roi' annibyniaeth i ni a chwalu'r drefn Prydeinig yn y broses. Yr unig ffordd caiff Cymru ei hannibyniaeth yn ôl yw drwy i ni ei 'gymryd' yn ôl. Fydda ni byth mewn sefyllfa bellach i gymryd Cymru yn ôl  drwy ryfela ac arfau ond, fel mae Pobl Glyndŵr a Chyngor Blaenau Ffestiniog yn dangos, gellir ad-ennill rheolaeth, yn economaidd, yn ein cymunedau led -led Cymru os ydym yn barod i dorchi llewys i wneud hynny, a drwy wneud hynny ochr yn ochr a gweithredu'n uniongyrchol pan cwyd achos dros wneud, gellir profi'n anodd ac yn gostus iawn i reoli Cymru o Lundain. Felly, dewch i ni gyd drwy Gymru benbaladr 'gloddio ein ffordd i Fuddugoliaeth'.  

Sylwer sut mae Tom wedi defnyddio lliwiau Glyndŵr ar gyfer ei gynllun felly, yn yr un ysbryd, cofiwch sicrhau bod baner Glyndŵr, yr unig faner a all sefyll dros ein hachos i adfer ein hannibyniaeth, yn chwifio uuchben mynediad i'ch Rhandiroedd bob amser.

 CYMRU RYDD!

Y neges yn Saesneg isod. English version of message below the flag.

All see the striking logo above, produced by Glyndŵr patriot Tom Lew, who has been very busy over the last few years working on the establishment of a community allotment and orchard in Blaenau Ffestiniog for the benefit of the inhabitants of the community. Also, do click and browse the blog link above (in Cymrag version of this message) which explains the philosophy associated with the old Cymric tale of Hu Gadarn who "would eat nothing unless it was produced by his own labour" The old Hu Gadarn story enspired ,both Tom and Dafydd Gwallter, another active Glyndŵr patriot, who  lives and farms in Tanygrisiau, to roll up their sleeves to establish community allotments and orchards in the Blaenau Ffestiniog and Tanygrisiau communities, and pics of how the allotments were developing in their early stages of development was placed on this Cymru Ein Gwlad blog two yrs ago. At this stage in time, the inhabitants of Blaenau Ffestiniog and Tanygrisiau are able to benefit from the produce of these allotments and, can grow their own produce on them should they be keen to roll up their sleeves to do so, and now, the Blaenau Ffestiniog Town Council, has adopted the logo designed by Tom, as the official logo for the Pont yr Ynn Blaenau Ffestiniog Community Orchard. Well done Tom, Dafydd and Blaenau Ffestiniog Town Council, You have all illustrated the 'practical way forward towards achieving Independence. If 'every' community in Cymru follows your lead and rolls up their sleeves to establish similar allotments to produce healthy food for their communities, there could be real potential to build on such with the initiating of other community initiatives that could lead to sustainable paid employment and ongoing training for such in each and every community. 

From little acorns, great oaks can grow and such community allotments is about building and nourishing confidence in individuals to act independently in support of a community as well as in growing nourishing food for the community and, in time, such initiatives can grow to be a 'national' Cymric Cooperative initiative where surplus produce can be exported. Tinning factories could be opened in Cymru, providing further employment and training in both the factories and in marketing and exporting as well as in our collapsing steel Industries which need to be and should be nationalized anyway. Alongside this growth, all communities in Cymru have the necessary resources in wind and hydro power to produce their own power, sold at cost to residents and, again, surplus to community requirement can be sold and exported for a fair price.

Nurturing this new confidence in building our own national Independence has to include the nurturing and the strengthening of knowledge of our Cymric national identity and essential to this need is knowing and understanding our history as a people and nation. Ireland has a history of 'Hedge Teachers' teaching Irish history and culture out of schools and in the communities. Communities in Cymru need to establish such 'hedge schools' in each community for the purpose of teaching Cymric history, folklore and culture to all in the community and no longer stand by whilst our people are 'force fed' an 'Anglo devised' version of Cymric history in an 'Anglo devised' school curriculum, a system deliberately devised to alienate us from knowing our own unique history.

Activating and being totally committed to such community led ventures alongside activating and participating in community and national direct action when needs call for such action will be much more likely to restore our national Independence than the current constant 'cap in hand' begging to the Westminster Government who, will 'never' just 'give' us back our Independence and concede to the breaking up of their 'United Kingdom' by doing so.  The Cymric politicians know this damn well and are totally dishonest in their "supposed" support for Cymric Independence.

 So, time to concede to the reality that the 'only' way that Cymric Independence can be restored is for us to 'take it back' . We will, never again, be in a position in Cymru to take up arms against the British State to get our nation back and neither should we consider to do so, but, as the Glyndŵr patriots and Council of Blaenau Ffestiniog are illustrating very effectively, we 'can' take back economic control in every community throughout Cymru if the will is strong enough and we are prepared to roll up our sleeves, and by doing so, alongside initiating and carrying out direct action as necessary, it will prove very difficult and very costly to rule our nation from Westminster. So, I say, let's follow Blaenau Ffestiniog's lead let's 'dig our way to victory'. 

Note how Tom has incorporated the Glyndŵr colours into his design so, do remember to ensure that you have a Glyndŵr flag (the only Cymric flag that can symbolize that we are still struggling for our Independence) flying on the entrance to all Cymric allotments at all times. 

CYMRU RYDD.